
Ymunwch â’n digwyddiadau ymgynghori
Mae Fferm Solar Eirlys yn gynnig sy’n cael ei gyflwyno gan Octo Partners, mewn cydweithrediad â’n partner datblygu EDF Renewables UK i ddarparu ynni glân, diogel a charbon isel i gartrefi a busnesau ledled y De, gyda fferm solar newydd ger Port Talbot.
Mae’r cynnig presennol yn cynnwys:
Capasiti wedi’i osod o 29 MW o leiaf
Digon o ynni i bweru 7,388 o gartrefi*
Ansawdd tir o raddau amrywiol 4 (gwael) a 5 (gwael iawn)
Cysylltiad grid trydan wedi’i sicrhau
System Storio Ynni Batri (BESS)
Datblygwr ynni adnewyddadwy sydd wedi’i leoli yng Nghymru
Mae’r safle, ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn agos i’r ffin gyda Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi’i ddewis yn ofalus ar sail ei botensial i ddarparu trydan i’r grid drwy baneli solar sydd wedi’u cysylltu â’r ddaear. Mae’r safle wedi’i gynllunio er mwyn lleihau unrhyw effaith niweidiol ar yr ardal gyfagos.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynhyrchu 70% o drydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, fel rhan o gynllun i gwtogi allyriadau nwyon tŷ gwydr. Cryfhawyd yr ymrwymiad hwn yn dilyn datganiad Llywodraeth Cymru o Argyfwng Newid Hinsawdd ym mis Ebrill 2019.
Mae Octo Partners yn ddatblygwr ynni adnewyddadwy a chynghorydd buddsoddi ar seilwaith yng Nghymru. Gyda phrofiad eang a hanes profedig, rydym mewn sefyllfa dda i ddatblygu a rheoli prosiectau a thrafodion cymhleth iawn yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
Mae EDF Renewables UK and Ireland yn is-gwmni o’r Grŵp EDF, un o gwmnïau trydan carbon isel mwyaf y byd, ac mae ein buddsoddiad a’n harloesedd yn arwain at fanteision sylweddol i gymunedau. Gyda’n portffolio gweithredu o 38 safle ynni adnewyddadwy, gan gynnwys batri, gwynt ar y tir ac alltraeth (cyfanswm o 1 GW i gyd), rydym yn darparu trydan fforddiadwy, carbon isel mawr ei angen. Mae gennym bortffolio sy’n ehangu gyda bron i 5GW o brosiectau wrthi’n cael eu cynllunio a’u datblygu, gan gynnwys gwynt, batri a PV solar.
Dyma gyfle i chi roi eich barn ar brosiect Fferm Solar Eirlys.